#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-770

Teitl y ddeiseb: Ailagor Gorsaf Drenau Crymlyn

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailagor gorsaf drenau Crymlyn. Rydym yn credu y gallai Crymlyn fod yn ganolfan drafnidiaeth gyhoeddus bwysig. Byddai ei lleoliad allweddol yn cynnig pwynt cyfnewid ar gyfer sawl dull teithio rhwng gwasanaethau rheilffordd llinell Glynebwy ar ei newydd wedd a phrif lwybr y bysiau cyflym rhanbarthol drwy ganol y cymoedd.  Mae safle’r orsaf yn gyfleus ar gyfer y rhwydwaith priffyrdd, ac mae ganddo faes parcio mawr a lle i fysiau. Mae modd cyrraedd llwybrau cerdded a beicio o’r safle. Nodwn fod y llygredd aer ar un o’r strydoedd yng Nghrymlyn gyda’r gwaethaf y tu allan i Lundain a bod angen gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gwella iechyd y cyhoedd. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i asesu’r achos dros ailagor gorsaf drenau yng Nghrymlyn ac i ystyried  ei hychwanegu at y rhestr flaenoriaethau nesaf o gynigion ar gyfer gorsafoedd newydd yng Nghymru.

 

Cefndir

Isadeiledd a gwasanaethau rheilffyrdd

Maes nas datganolwyd yw buddsoddi yn seilwaith y rheilffyrdd; mae’r prif bwerau a dyletswyddau statudol yn perthyn i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth. Fodd bynnag,  o dan Ddeddf Rheilffyrdd 2005 (‘Deddf 2005’) mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i fuddsoddi yn seilwaith y rheilffyrdd, gan gynnwys gorsafoedd.

Ar hyn o bryd, nid yw masnachfreiniau rheilffyrdd yn faes datganoledig. Serch hynny, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw rheoli masnachfraint Cymru a Gororau o ddydd i ddydd, gan gynnwys cyllido gwasanaethau yng Nghymru (“gwasanaethau Cymru’n unig”), a’r gwasanaethau hynny sy’n dechrau neu’n terfynu yng Nghymru (“gwasanaethau ar gyfer Cymru”).

Yn ogystal â buddsoddi mewn seilwaith, mae Deddf 2005 yn galluogi i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn gwaith i wella gwasanaethau rheilffyrdd. Gallai hyn gynnwys unrhyw gostau sy’n gysylltiedig ag amserlennu i drenau alw yng ngorsaf Crymlyn. Mae’n werth nodi, fodd bynnag, bod ychwanegu at y gorsafoedd y bydd trenau yn galw ynddynt yn cael effaith ar amserlen ac amseroedd teithio y gwasanaethau hynny.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn trafod datganoli pwerau gweithredol ar gyfer caffael y fasnachfraint rheilffordd nesaf i Gymru o 2018. Disgwylir i bwerau gael eu datganoli yn hydref 2017 ac mae Llywodraeth Cymru wedi cychwyn ar y gwaith o gaffael masnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau.

Gorsaf Crymlyn

Mae Crymlyn ar linell Rheilffordd Cwm Ebwy rhwng gorsaf Glynebwy a Chaerdydd Canolog. Ar hyn o bryd, mae Trenau Arriva Cymru yn cynnal gwasanaeth bob awr ar y llinell hon. Caewyd gorsaf Lefel Isel Crymlyn yn y 1960au.

Yn 2010, cynhaliodd Capita Symonds asesiad Canllawiau Gwerthuso Cludiant Cymru (WelTAG) o Ebbw Valley Railway, Future Phases ar gyfer y Gynghrair Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru (SEWTA) sydd bellach wedi’i ddiddymu. Ystyriodd yr asesiad orsafoedd newydd ar gyfer Cwm, Crymlyn, Abertyleri, Pye Corner a gorllewin Casnewydd. Casglodd Capita Symonds fod y gymhareb budd a chost ar gyfer gorsaf newydd yng Nghrymlyn yn gymedrol, a’i bod yn perfformio yn dda yn yr arfarniad WelTAG yn gyffredinol, wrth gynnwys gorsaf newydd yn Pye Corner a gwasanaethau ychwanegol, ac y dylid bwrw ymlaen â hi.

O ran ehangu cyrhaeddiad y rhwydwaith rheilffyrdd, mewn adroddiad gan Jacobs ar strategaeth rheilffyrdd SEWTA, a gyhoeddwyd yn 2013, nodwyd:

There are few quick wins in terms of new stations that could be built on existing lines in the SEWTA area. Options are Pye Corner and / or Crumlin and Ebbw Vale Town on the Ebbw Vale Line.

Mae Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn darparu ar gyfer diogelu’r tir ar gyfer gorsaf newydd yng Nghrymlyn, gan nodi, “Byddai sefydlu’r orsaf hon o fudd i’r prif safle cyflogaeth yn Oakdale”.

Bargen Ddinesig a Metro Caerdydd

Sefydlwyd Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRTA) o dan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gydlynu cynllunio trafnidiaeth a buddsoddi yn rhanbarth y Fargen Ddinesig (yn cynnwys Crymlyn). Mae’r Awdurdod “wedi mynd ati i ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Strategol”, a bydd yn “adolygu ac yn blaenoriaethu cynlluniau drafft presennol yng ngoleuni’r Fargen Ddinesig”. Mae hefyd “yn gweithredu o ddifri’ â Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru ynglŷn â chyd-ddylunio cynlluniau Metro De-ddwyrain Cymru”.

Rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cymoedd a Chaerdydd yw’r Metro. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn rhaglen hirdymor sy’n cael ei ddatblygu fel y gellir ei ymestyn yn raddol. Yn ei phamffled Metro diweddaraf, dywed Llywodraeth Cymru y bydd Metro Cam 2 (2017-23) yn “canolbwyntio ar foderneiddio craidd Trenau’r Cymoedd a rhwydwaith rheilffyrdd ehangach De Cymru”. Er nad yw llinell Glynebwy ymhlith llinellau craidd y Cymoedd, mae’r pamffled yn nodi os na chaiff ei chyflwyno yn ystod Cam 2, gellir ystyried nifer o orsafoedd rheilffyrdd trwm ychwanegol [gan gynnwys Crymlyn].

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Gorsafoedd newydd

Mae Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol (CCTC) Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddatblygu meini prawf asesu a chan ddefnyddio’r meini prawf hynny, rhestr wedi’i blaenoriaethu o orsafoedd newydd i’w hystyried ymhellach (mewn perthynas â sicrhau cyllid gan y diwydiant  rheilffyrdd). Rhestrir Crymlyn yn y Cynllun Cyllid Trafnidaeth Cenedlaethol fel orsaf a asesir fel rhan o’r broses hon (Cyfeirnod CCTC RI10). O ran cyflwyno Cam 2 o’r Metro, mae gorsaf Crymlyn wedi’i chynnwys ar restr o welliannau seilwaith arfaethedig a fydd yn destun “astudiaethau ymarferoldeb, datblygu achos busnes a darparu ateb/opsiwn sy’n cael ei argymell” rhwng 2017 a 2020 (Cyfeirnod CCTC CCRM10f).

Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ac Isadeiledd at holl Aelodau’r Cynulliad ar 26 Ebrill 2017  (PDF 231KB) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

§    dull tair cam Llywodraeth Cymru ar gyfer blaenoriaethu cynigion ar gyfer gorsafoedd trenau newydd yng Nghymru; a

§    rhestr wedi’i blaenoriaethu o orsafoedd a fydd yn destun asesiad pellach o dan gamau 2 a 3.

Ni chynhwyswyd gorsaf Crymlyn ar rhestr gorsafoedd blaenoriaeth yr Ysgrifennydd Cabinet.

Yn dilyn cwestiwn i’r Prif Weinidog ar y broses ar gyfer asesu cynigion ar gyfer gorsafoedd trenau newydd ar 16 Mai 2017, ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet at holl Aelodau’r Cynulliad yn rhoi diweddariad pellach ar 6 Mehefin 2017 yn nodi:

Y gorsafoedd rhanbarthol a gafodd eu dewis ar gyfer eu hasesu [yng Ngham 2] yw’r rheini gafodd y sgoriau uchaf ar draws yr holl feini prawf [WelTAG a Llesiant].

Yn ei lythyr at y Cadeirydd ynglŷn â’r ddeiseb hon, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod Llywodraeth Cymru, yn niffyg cyfrifoldeb am gyllido buddsoddi yn seilwaith y rheilffyrdd, yn defnyddio ei phwerau i hwyluso’r gwaith o ddatblygu gorsafoedd trenau er mwyn “cryfhau gallu cynigion ar gyfer gorsafoedd i elwa ar alwad am geisiadau am gyllid [Llywodraeth y DU]”. Ynghylch gorsaf Crymlyn, dywedodd:

Whilst working on Stage 3 we will also assess the next batch of stations on the Stage 1 list. We anticipate commencing this work in early 2018. Our initial assessment is that Crumlin Station scored well against the transport case criteria. As the assessment process is an on-going and iterative one, Crumlin will eventually be assessed along with other stations on our list.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dilyn ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gwestiwn ar fuddsoddiad yn rhwydwaith y rheilffyrdd yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Mehefin 2017, dywedodd Steffan Lewis:

Mae Ysgrifennydd y Cabinet, fel y crybwyllwyd eisoes, wedi cyhoeddi rhestr oi flaenoriaethau ar gyfer adeiladu gorsafoedd newydd, ac roeddwn yn synnu nad oedd Crymlyn ymhlith y gorsafoedd blaenoriaethol hynny, o ystyried y lleoliad allweddol y maen ei ddarparu ar gyfer cyfnewidfa aml-foddol ai botensial fel canolbwynt beicio a cherdded pellter hir hefyd-yn yr ardal, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, syn cynnwys y stryd sydd âr llygredd aer gwaethaf yn unrhyw le yn y DU y tu allan i Lundain. 

Rwy’n deall bod ei adnoddau’n gyfyngedig a bod nifer o ffactorau’n cystadlu, ond efallai nad yw’r meini prawf presennol ar gyfer pennu gorsafoedd blaenoriaethol mor hollgynhwysol ag y gallent fod.

Wrth ymateb i ddatganiad ar bolisi a deddfwriaeth o ran yr amgylchedd hanesyddol yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Gorffennaf 2017 , dywedodd Rhianon Passmore y byddai’n hoffi gweld “yr orsaf reilffordd yn cael ei hailgyflwyno yng Nghrymlyn, er mwyn agor ein cymunedau yn y Cymoedd”. Wrth drafod gorsaf tref Glynebwy a’r estyniad llinell gysylltiedig yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Gorffennaf 2017, dywedodd Rhianon Passmore:

Mae’r orsaf yng Nglynebwy yn dangos sut y gellir ymestyn y rheilffordd yn rhan o ryngwyneb trafnidiaeth strategol, cyfannol ac amlfoddol […].

Rwy’n gadarn iawn fy marn y dylai Crymlyn gael gorsaf reilffordd rhyw ddydd.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.